Cyfarwyddwr Gweithredol - Adnoddau Corfforaethol
Newport
£92000 - £101000 per annum
Permanent
Rydym yn falch o fod yn cefnogi Cymwysterau Cymru gyda phenodiad Cyfarwyddwr Gweithredol Adnoddau Corfforaethol newydd.
Cymwysterau Cymru y...
a1WNz000004FJ85MAG_1772451199
Job description
Rydym yn falch o fod yn cefnogi Cymwysterau Cymru gyda phenodiad Cyfarwyddwr Gweithredol Adnoddau Corfforaethol newydd.
Cymwysterau Cymru yw rheoleiddiwr annibynnol cymwysterau a'r system gymwysterau yng Nghymru. Mae'n gyfrifol am sicrhau bod cymwysterau a'r system gymwysterau'n effeithiol wrth ddiwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru, ac am hybu hyder y cyhoedd yn y rhain.
Gwybodaeth Allweddol
- Lleoliad: Casnewydd gyda dull hybrid.
- Contract: Parhaol ac amser llawn, gellir trafod ceisiadau am batrymau gwaith eraill yn y cyfweliad.
- Cyflog: £92,000 - £101,000 yn dibynnu ar brofiad, ynghyd â phensiwn y gwasanaeth sifil (cyfraniad cyflogwr o 28.97%), 31 diwrnod o wyliau blynyddol, a buddion cystadleuol eraill. Gellid ystyried cymorth adleoli.
- Dyddiad cau: 22 Mawrth 2026
Pwrpas y Swydd
Gan adrodd i'r Prif Weithredwr ac fel aelod o'r tîm Gweithredol, bydd y Cyfarwyddwr Gweithredol - Adnoddau Corfforaethol yn cynnig arweiniad strategol i'r gyfarwyddiaeth Adnoddau Corfforaethol ac fe fyddant yn aelod gweithredol o'r tîm gweithredol gan gyfrannu at arweinyddiaeth ar draws y sefydliad cyfan.
Bydd deiliad y swydd hon yn bersonol gyfrifol i'r Prif Weithredwr am oruchwylio stiwardiaeth ariannol Cymwysterau Cymru, rheoli ei adnoddau a'i asedau dynol ac ariannol, cyflawni ei rwymedigaethau statudol a rheoleiddiol, a chydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol arall. Rhaid iddynt sicrhau bod safonau uchel o lywodraethiant corfforaethol ar waith, o fewn y gyfarwyddiaeth ac ar draws pob maes o'r sefydliad.
Bydd deiliad y swydd hon hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod y sefydliad yn derbyn gwasanaeth rhagorol gan dimau Adnoddau Corfforaethol i gefnogi ein gwaith rheoleiddio a pholisi mewn modd amserol a chost-effeithiol.
Crynodeb o'r Gofynion
- Cymhwyster proffesiynol mewn o leiaf un arbenigedd corfforaethol (AD, TGCh, Cyllid (â chymhwyster gan CCAB), Llywodraethiant Corfforaethol, Cyfleusterau neu Gaffael).
- Sgiliau arweinyddiaeth, rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol a'r gallu i gynrychioli'r sefydliad gyda chyrff cyhoeddus eraill, gan feithrin perthnasoedd sy'n arwain at gydweithrediad sydd o fudd i'r ddwy ochr.
- Y gallu i ysbrydoli ac ysgogi gweithwyr proffesiynol trwy gyfnod o newid ac arloesi, wrth feithrin dulliau cyson ac atebol o weithio.
- Profiad helaeth o weithio mewn rôl arweinyddiaeth strategol, sy'n gallu dangos hanes blaenorol mewn:
- Rheoli swyddogaethau(au) corfforaethol er mwyn sicrhau bod y sefydliad y gweithredu'n ddidrafferth.
- Ysgogi a gwella perfformiad a datblygiad staff
- Cynllunio busnes a rheoli adnoddau
- Cefnogi penderfyniadau sefydliadol trwy strwythurau llywodraethu cadarn
- Arwain newid mewn systemau neu brosesau
- Datblygu rheolaethau ac olrhain perfformiad i wella cyflawni a rheoli risg
- Rheoli masnachol a rheoli cyflenwyr
Cyfeiriwch at y pecyn llawn ar gyfer ymgeiswyr isod am y cyfrifoldebau llawn, y gofynion a gwybodaeth bellach.
I Wneud Cais
Mae Cymwysterau Cymru wedi cyflogi Acorn by Synergie i gefnogi a rheoli'r cylch recriwtio hon. I ddysgu rhagor, cysylltwch â: luke.robert@acornbysynergie.com / 07551 353 260
Os hoffech wneud cais, cyflwynwch y canlynol i'w hystyried cyn y dyddiad cau ar 22 Mawrth 2026:
- CV wedi'i ddiweddaru
- Datganiad ategol (uchafswm o 2,000 o eiriau) yn manylu ar eich cymhelliant dros wneud cais a'ch addasrwydd o ran manyleb y person sydd dan sylw.
- Cwblhewch y Ffurflen Fonitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Ddienw.
Ein bwriad yw cynnal cyfweliad 16 Ebrill yng Nghasnewydd.
Os oes gennych unrhyw broblemau gyda'r dyddiadau hyn neu os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol pellach arnoch fel rhan o'r broses, yna cysylltwch â Luke Robért.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych.
Acorn by Synergie acts as an employment agency for permanent recruitment.
Share